SL(6)123 - Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2021

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

Mae’r Rheoliadau’n diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”) a Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (“Rheoliadau 2021”) yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE.

Mae'r diwygiadau i Reoliadau 2011 yn gymwys ym maes rheolaethau bioddiogelwch ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid, sydd wedi'u cynnwys yn y gyfres o nwyddau a elwir gyda'i gilydd yn nwyddau iechydol a ffyto-iechydol. Diben y diwygiadau hyn yw er mwyn sicrhau cysondeb â newidiadau gan Lywodraeth y DU i Reoliad (UE) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor, dyddiedig 15 Mawrth 2007, ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau bod cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion, a chynhyrchion diogelu planhigion yn cael eu rhoi arwaith. Mae’r newidiadau hyn yn adlewyrchu’r dull diwygiedig o ran rheoli mewnforion rhwng yr UE a Phrydain Fawr sydd wedi’i fabwysiadu gan Lywodraeth y DU o 31 Rhagfyr 2021 ymlaen.

Diwygir Rheoliadau 2011 i wneud rhaghysbysiad yn ofynnol o 1 Ionawr 2022 ymlaen pan fydd holl sgil-gynhyrchion anifeiliaid categori 3, nad ydynt eisoes yn destun rheolaethau ers 1 Ionawr 2021, yn cyrraedd. Sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 3 yw’r categori risg isaf, ac maent yn cynnwys cynhyrchion fel crwyn anifeiliaid, cregyn, gwastraff arlwyo domestig a rhai cynhyrchion yr ystyrir eu bod yn addas i bobl eu bwyta. Mae nwyddau personol sy'n rhan o fagiau teithwyr ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta neu eu defnyddio'n bersonol, llwythi bach o nwyddau a anfonir at bersonau naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad, a nwyddau a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon neu Weriniaeth Iwerddon ac a symudir neu a fewnforir i Brydain Fawr o Weriniaeth Iwerddon, wedi eu hesemptio dros dro o’r gofynion rhaghysbysu a ddaw i rym fel arall mewn perthynas â chynhyrchion anifeiliaid o 1 Ionawr 2022.

Gwneir diwygiad hefyd i Reoliadau 2011 i alluogi pwerau gorfodi i barhau i fod ar gael yn ystod y cyfnod trosiannol estynedig, ac eithrio mewn safleoedd rheoli ffiniau mewn perthynas ag anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau 2021 i estyn yr ataliad dros dro presennol ar y gofyniad i baratoadau cig a fewnforir i Loegr o Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaro,

yr Ynys Las neu’r Swistir, gael eu rhewi’n ddwfn, gan gadw’r hawddfraint dros dro hwn yn unol â'r rheolaethau cyfnod trosiannol diwygiedig.  Bydd yn caniatáu i baratoadau cig o’r UE barhau i gael eu mewnforio mewn cyflwr oer tan 30 Mehefin 2022.  Mae’r Rheoliadau yn ceisio sicrhau cysondeb â’r amserlen ddiwygiedig ar gyfer cyflwyno rheolaethau mewnforio ar nwyddau sy’n cyrraedd o’r gwledydd hynny ar 1 Gorffennaf 2022. Heb y Rheoliadau byddai’n anghyfreithlon i fasnachwyr fewnforio paratoadau cig oer, a hynny ers 1 Ionawr 2022.

Y weithdrefn

Gwneud cadarnhaol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Rhaid i’r Senedd gymeradwyo’r Rheoliadau o fewn 28 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gwnaed er mwyn iddynt barhau i gael effaith.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae’r Memorandwm Esboniadol ar y Rheoliadau hyn yn nodi

“Given the urgent nature of the Regulations, no public consultation has beenundertaken; however, there has been GB-wide extensive stakeholderengagement with the Agri-Food industry and with delivery partners withresponsibilities over SPS border controls.”

Nodir bod Llywodraeth y DU, fodd bynnag, wedi cynnal ymgynghoriad byr mewn perthynas â’i rheoliadau rhwng 10 a 13 Rhagfyr 2021, a oedd yn cydnabod rhai newidiadau a oedd yn effeithio ar Gymru. O ystyried bod Llywodraeth y DU wedi gallu cynnal ymgynghoriad, gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau pam na allai hi gynnal ymgynghoriad byr tebyg yng Nghymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

12 Ionawr 2022